Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 15 Mai 2018
Amser:
08.30 -
08.33
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Julie James AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer. Bydd pleidlais electronig ar y Ddadl ynghylch Polisi Urddas a Pharch y Cynulliad ddydd Mercher. Ni fydd cynnig i dderbyn y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36 ar ddiwedd yr eitem, ac yn lle hynny caiff y bleidlais ei gohirio'n awtomatig tan y cyfnod pleidleisio.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 13 Mehefin 2018 -
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Bywyd ar y strydoedd: atal a mynd i’r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Cytunodd Rheolwyr Busnes i gais ar y cyd gan Mick Antoniw a Sian Gwenllian i gyfnewid eu slotiau ar gyfer Dadl Fer (yn wreiddiol ar 13 ac 20 Mehefin, yn y drefn honno). Bydd Dadl Fer Sian Gwenllian bellach yn ymddangos ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ar gyfer 13 Mehefin, a bydd Dadl Fer Mick Antoniw yn symud i 20 Mehefin.